Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ffoniwch 999 nawr mewn sefyllfaoedd brys fel y rhain:
Yn yr adran hon:
1. Beth yw blacmel rhywiol |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio'r peth i ni |
3. Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Stopiwch bob cyfathrebu â'r troseddwr ar unwaith. Hefyd, ddylech chi ddim talu byth, gan nad oes sicrwydd y bydd hyn yn atal y bygythiadau.
Os hoffech chi gael gwared ar eich cyfrif, ewch ati i’w ddadactifadu yn hytrach na'i ddileu. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ninnau ddod o hyd i dystiolaeth.
Does dim angen ichi gasglu 'tystiolaeth' fel sgrinluniau, negeseuon testun, fideos neu luniau cyn ichi riportio i ni. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud wrth riportio yw dweud wrthon ni beth ddigwyddodd.
Os oes gennych unrhyw sgrinluniau, negeseuon testun, fideos neu luniau, gall manylion fel y rhain fod yn ddefnyddiol inni
Hyd yn oed os nad yw'r llun neu'r fideo ar gael mwyach, dylech riportio’r peth i ni o hyd. Efallai y byddwn ni’n gallu adfer y ddelwedd.
Gwybodaeth ddefnyddiol os yw hi gennych chi:
Dim ond os ydych chi'n siŵr bod y person dros 18 oed y dylech chi dynnu sgrinlun o ddelwedd bersonol. Os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch â thynnu sgrinlun, ei recordio na’i rhannu gyda neb, hyd yn oed yr heddlu. Gallai hynny fod yn drosedd.
Gallwch riportio'r troseddau hyn ar-lein.
Os ydych o dan 18 oed, gallwch riportio blacmel rhywiol, neu unrhyw fath arall o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein, i Ganolfan Diogelwch Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Os hoffech chi siarad â swyddog yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyffyrddus yn unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Os oes arnoch chi angen cyfieithydd, gallwn ddarparu rhywun dros y ffôn i ddechrau ac yn bersonol yn nes ymlaen.
Ar ôl inni gael eich adroddiad byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chi ac yn rhoi gwybod ichi beth fydd yn digwydd nesaf.
Gallwch chi riportio'n ddienw drwy wefan Crimestoppers neu drwy eu ffonio nhw ar 0800 555 111.
Mae unrhyw fanylion y gallwch eu rhoi i Crimestoppers yn hynod werthfawr i'n helpu i ddarganfod mwy am bwy sy'n cyflawni camdriniaeth drwy ddelweddau personol, neu flacmel rhywiol.
Nesaf: Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol