Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diffinnir anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), a elwir hefyd yn ‘dorri menywod’ neu ‘enwaedu menywod’, gan Sefydliad Iechyd y Byd fel unrhyw weithdrefn sy’n golygu tynnu rhan neu’r cyfan o organau cenhedlu allanol menywod, neu anaf arall i organau cenhedlu menywod am resymau anfeddygol. Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU, gyda chosb o hyd at 14 o flynyddoedd o garchar. Gallwch ganfod yr hyn rydym yn ei wneud i atal FGM, a sut i gael cymorth os effeithiwyd arnoch.
Gallai fod effeithiau difrifol i FGM - yn seicolegol, emosiynol a meddygol. Gall gynnwys poen eithafol, sioc, haint, gwaedlif, anffrwythlondeb, anymataliaeth, HIV, haint y llwybr wrinol, rhwystr mislif, a marwolaeth.
Nid oes manteision iechyd i FGM. Mae’n golygu tynnu a difrodi meinwe organau cenhedlu iach a normal menywod, ac mae’n amharu ar swyddogaethau naturiol cyrff menywod am weddill eu hoes.
Dosbarthir FGM yn bedwar prif fath:
Rhagor o wybodaeth am elfennau meddygol FGM.
Mae FGM yn fath o gam-drin plant ac mae’n groes i’r gyfraith yn y DU. Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wneud y canlynol:
Mae cosb o hyd at 14 mlynedd o garchar am FGM.
Gorchymyn sifil yw gorchymyn amddiffyn rhag FGM (FGMPO) a ddefnyddir i amddiffyn y rheini sy’n agored i ddioddef FGM, a’i atal rhag digwydd. Mae’n rhoi hyblygrwydd i’r llysoedd bennu amodau ynghylch diogelu a lles yr unigolyn gwarchodedig. Golyga hyn y gall llys roi darpariaethau ar waith i hwyluso dychweliad diogel merched yr aed â hwy y tu allan i’r DU at ddiben FGM.
Gellir cael FGMPO drwy dri llys teulu. Gall torri FGMPO fod â chosb o hyd at bum mlynedd o garchar.
Mae nifer o ddangosyddion sy’n nodi y gallai merch fod wedi dioddef FGM. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Yn aml ni fydd plant yn ymwybodol bod FGM yn mynd i ddigwydd. Yn anffodus, golyga hyn na fydd llawer o arwyddion cyn y bydd yn digwydd. Fodd bynnag, weithiau caiff plant wybod ymlaen llaw, a gallai hyn arwain at newid yn eu hymddygiad, megis ceisio cyngor neu gymorth gan weithwyr proffesiynol a ffrindiau.
Os ydych chi’n amau bod person yn cyflawni FGM, neu’n meddwl bod rhywun rydych chi’n ei hadnabod wedi dioddef, neu’n mynd i ddioddef yn fuan, ewch i’n tudalen Sut i riportio achos posibl o gam-drin plant i weld nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu. Neu, ffoniwch y llinell gymorth FGM genedlaethol ar 0800 028 3550.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol a reoleiddir, megis gweithiwr iechyd, gweithiwr cymdeithasol neu athro/athrawes, mae’n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith i riportio unrhyw achosion ‘hysbys’ o FGM yn uniongyrchol wrth yr heddlu ar ein rhif di-argyfwng 101. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18001 101.
Mae ‘hysbys’ yn golygu eich bod naill ai wedi canfod yn weledol bod FGM wedi’i gyflawni, neu eich bod wedi cael datgeliad ar lafar gan y ferch yr effeithiwyd arni.
Y Ganolfan FGM Genedlaethol
Partneriaeth rhwng Barnardo’s a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol i wella gwasanaethau FGM.
Hyfforddiant FGM y Swyddfa Gartref
Cwrs ar-lein am ddim ar sut i ganfod a riportio achosion o anffurfio organau cenhedlu menywod.
NHS Choices
Gwybodaeth am ddim ynglŷn â pham a ble mae FGM yn cael ei gyflawni a’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn.
Llinell Gymorth FGM NSPCC
Elusen genedlaethol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim dros y ffôn i blant ac oedolion sydd â chwestiynau am FGM.
28 Too Many
Elusen ryngwladol sy’n gweithio i roi terfyn ar FGM drwy ymchwil a mentrau lleol.
Black Women’s Health and Family Support (BWHAFS)
Sefydliad sy’n hyrwyddo dileu FGM yn y cyd-destun ehangach o wella iechyd menywod du.
Daughters of Eve
Elusen sy’n amddiffyn merched a menywod ifanc sydd mewn perygl o ddioddef FGM.
Foundation for Women's Health Research and Development (FORWARD)
Ymgyrch a sefydliad menywod alltud Affricanaidd sy’n mynd i’r afael ag arferion gwahaniaethol yn erbyn merched a menywod.
The Iranian and Kurdish Women’s Rights Organisation (IKWRO)
Elusen sy’n darparu cyngor, eiriolaeth, atgyfeiriadau a chefnogaeth i fenywod a dynion yn y DU yn yr ieithoedd Arabeg, Cwrdeg a Ffarsi.