MOTs
Bydd ceir, faniau a beiciau modur sydd i fod i gael eu MOT o 30 Mawrth 2020 ymlaen yn cael estyniad o chwe mis ar eu MOT oherwydd coronafeirws. Mae angen o hyd ichi gael MOT os oeddech i fod i’w drefnu cyn 30 Mawrth 2020.
Canllawiau ar MOTs oedd i fod i gael eu trefnu cyn 30 Mawrth
Canllawiau ar MOTs sydd i fod i gael eu trefnu o 30 Mawrth ymlaen
Does dim angen MOT ar lorïau, bysiau a threlars am dri mis o 21 Mawrth 2020. Gallwch drefnu prawf i lori, bws neu drelar o 4 Gorffennaf ymlaen pan fydd y profion yn ailddechrau.
Canllawiau ar MOTs i lorïau, bysiau a threlars
Mae profion cymeradwyo cerbydau wedi’u hatal ar hyn o bryd, ond mae profion ar gael i gerbydau sy’n hanfodol ar gyfer yr ymateb i’r coronafeirws.