Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dysgwch isod beth i'w ddisgwyl ar ddiwedd y broses gwyno a sut i apelio yn erbyn y canlyniad os oes angen hynny.
Sylwch: mae'r wybodaeth hon wedi’i bwriadu ar gyfer unrhyw un a wnaeth gŵyn cyn 1 Chwefror 2020.
Ar gyfer unrhyw ganlyniad, byddwn yn rhoi crynodeb o'r hyn a wnaethom, yr hyn a welsom a sut y daethom i'n casgliadau. Byddwn hefyd yn cynnwys:
Yn olaf, byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw gamau dilynol, fel:
Mae apêl yn adolygiad o sut cafodd yr ymchwiliad i'ch cwyn ei gwblhau. Pan fo apêl yn cael ei gwneud ni fyddwn yn ailymchwilio i'r gŵyn ei hun. Yn dilyn adolygiad, cewch wybod bob amser a yw'r apêl wedi'i chadarnhau neu beidio.
Os ydych yn anfodlon ar ganlyniad eich cwyn, mae'n bosibl y gallwch apelio. Ar ddiwedd ein hymchwiliad, byddwn yn rhoi gwybod ichi sut i gyflwyno apêl ac erbyn pa bryd y bydd angen ichi wneud hynny.
Ymdrinnir â'ch apêl gan y Swyddog Apeliadau Annibynnol, sy'n uwch swyddog heddlu ac sy'n annibynnol ar y swyddogion sy'n rhan o'r gŵyn.
Mewn rhai achosion bydd eich apêl yn cael ei thrafod gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, er enghraifft os yw’ch apêl yn apêl yn erbyn uwch swyddog neu os cafodd yr ymchwiliad ei gynnal gan yr ASP.
Gallwch gwblhau apêl yn erbyn ymchwiliad yr heddlu i'ch cwyn yn gyflym ac yn hawdd, drwy ddefnyddio naill ai ein ffurflenni ar-lein neu fersiynau i'w lawrlwytho..
Apêl yn erbyn canlyniad ymchwiliad i gŵyn
Apêl yn erbyn canlyniad datrysiad lleol
Apêl yn erbyn penderfyniad i roi’r gorau i ymdrin â’m cwyn ('anghymhwyso’)
Sylwch: rhaid i bob apêl ddod i law o fewn 28 diwrnod i'r diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr gan yr Adran Safonau Proffesiynol yn rhoi canlyniad eich cwyn i chi. Mae hyn yn cynnwys yr amser y mae eich llythyr yn ei dreulio yn y post.