Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tân gwyllt yn hwyl a dylai pawb allu eu mwynhau’n ddiogel, boed hynny mewn arddangosfa wedi’i threfnu neu yn eu gardd gefn. Yma cewch wybod am y gyfraith sy’n ymwneud â thân gwyllt yn ogystal â sut i aros yn ddiogel, a riportio’r rheini sy’n defnyddio tân gwyllt mewn modd peryglus neu fygythiol.
Gellir defnyddio tân gwyllt yn y DU ar unrhyw adeg rhwng 7am ac 11pm.
Yr eithriadau yw:
Yn ôl Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 a Rheoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2015:
O’u defnyddio’n anghyfrifol, gall tân gwyllt achosi difrod i eiddo a gwneud niwed sylweddol i bobl ac anifeiliaid. Nid yn unig bod perygl y bydd tân gwyllt yn ffrwydro, gallant hefyd achosi risg tân difrifol.
Dyna pam mai dim ond ar eiddo preifat y gall y cyhoedd ddefnyddio tân gwyllt, megis yn eu gerddi cefn, a dim ond gweithwyr proffesiynol trwyddedig all eu defnyddio mewn mannau cyhoeddus.
Os yw manwerthwr lleol yn gwerthu tân gwyllt oedolion i bobl dan 18 oed, riportiwch hynny wrth eich swyddfa Safonau Masnach leol
Os yw plant yn tanio tân gwyllt yn eich ardal, ein cyngor cyntaf yw gofyn yn gwrtais iddynt roi’r gorau iddi. Mae’n bosibl nad ydynt y ymwybodol eu bod yn torri’r gyfraith. Os ydych chi’n gwybod pwy yw eu rhieni, gallwch ofyn iddynt hwy ymyrryd.
Os oes rhywun yn tanio neu’n taflu tân gwyllt mewn man cyhoeddus, gallwch riportio hyn ar-lein.