Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yma gallwch ddarganfod sut i amddiffyn eich hun rhag dioddef lladrad symudol a chamau a fydd yn helpu os caiff eich ffôn ei ddwyn.
Peidiwch â gadael eich ffôn, ipad, tabled neu gamera heb neb yn ei warchod, o’ch golwg neu ar fwrdd – gall lladron gipio ffôn oddi ar fwrdd mewn eiliadau.
Byddwch yn ymwybodol bob amser o’ch ffôn symudol a’r hyn sydd o’ch cwmpas a gweithredwch yn unol â hynny. Pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio, rhowch ef i gadw.
Gwnewch yn siŵr bod gennych gofnod o rif IMEI eich ffôn. Dyma’r rhif 15 digid unigryw y gellir cael gafael arno drwy deipio *#06#. Bydd angen y wybodaeth hon arnoch os bydd y ffôn yn cael ei golli neu ei ddwyn. Ac os na fyddwch yn cadw cofnod ohono mae’n ddiwerth.
Defnyddiwch nodweddion diogelwch eich ffôn, apiau neu fecanwaith cloi PIN i ddiogelu eich data ac atal y ffôn rhag cael ei ddefnyddio os caiff ei ddwyn.
Traciwch ef. Ystyriwch osod ap tracio ar eich ffôn clyfar. Mae’n hawdd cael gafael arnynt ar-lein. Os caiff eich ffôn symudol ei ddwyn, gweithredwch ar unwaith.