Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Isod cewch wybod sut i wneud cais am y wybodaeth a ddelir gan yr heddlu amdanoch chi.
Gallwch hefyd wneud cais am fanylion eich hanes troseddol, boed hynny ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), cais am fisa neu achos mewn llys teulu. Os na allwn ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, byddwn yn eich cyfeirio at rywle all wneud hynny.
Gwneud cais am wybodaeth amdanaf fi, ac eithrio fy hanes euogfarnau troseddol, ar gyfer fy niddordeb fy hun
Diolch. Mae angen i chi gyflwyno cais gwrthrych am wybodaeth/hawl mynediad, sef y ffordd swyddogol i ofyn am wybodaeth bersonol, megis adroddiadau am droseddau, a ddelir gennym amdanoch yn ein cronfa ddata.
Mae sawl ffordd i wneud cais gwrthrych am wybodaeth; dros y ffôn, drwy e-bost, drwy lythyr, ar y wefan hon gan ddefnyddio ffurflen y gellir ei lawrlwytho neu’n bersonol.
Sut bynnag yr ydych yn gwneud eich cais, rhaid iddo gynnwys:
Bydd angen i ni hefyd gadarnhau pwy ydych chi. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu sganiau, lluniau neu lungopïau o ddogfennau swyddogol a fydd gyda’i gilydd yn cadarnhau eich enw llawn, dyddiad geni a’ch cyfeiriad presennol.
Sut i wneud cais:
Cam 1: Lawrlwythwch ein ffurflen cais gwrthrych am wybodaeth a darllenwch y nodiadau canllaw.
Cam 2: Argraffwch a llenwch y ffurflen a’i phostio i ni (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen) ynghyd â’ch sganiau neu lungopïau o’r dogfennau adnabod perthnasol (mae’r manylion ar y ffurflen).
Os byddwch angen cymorth gyda’ch cais, mae manylion y rhai y dylid cysylltu â nhw ar y ffurflen.
Yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, ar ôl ichi gyflwyno’ch cais, byddwn yn ymateb o fewn 30 diwrnod.
A fyddech cystal â ni ei bod yn groes i’r gyfraith i gyflogwr, neu ddarpar gyflogwr, ofyn i chi wneud cais gwrthrych am wybodaeth fel rhan o broses fetio.