Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid yw’n gwasanaeth riportio ar-lein ar gyfer treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill ar-lein dros dro.
Rydyn ni’n gweithio i'w gael yn ôl ar-lein eto cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, os oes angen ichi siarad â rhywun:
Ffoniwch 101.
Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18001 101.
Ffoniwch 999:
Os oes gennych chi nam ar y lleferydd neu'r clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000.
Neu anfonwch neges destun atom ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth neges destun brys.
Ffoniwch 999 a dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Pwyswch 55 pan gewch chi’ch annog a chaiff eich galwad ei throsglwyddo i’r heddlu.
Dim ond ar ffôn symudol y mae pwyso 55 yn gweithio, a dyw hyn ddim yn gadael inni olrhain ble rydych chi.
Os na fyddwch chi’n pwyso 55, caiff eich galwad ei therfynu.
Os na fyddwch chi’n siarad a bod y cysylltwr yn gallu clywed synau cefndir yn unig, fe fyddan nhw’n trosglwyddo’ch galwad i'r heddlu.
Os byddwch yn rhoi’r set law i lawr, efallai y bydd y llinell dir yn dal wedi’i chysylltu am 45 eiliad, rhag ofn i chi godi’r set law eto.
Mae ffonio 999 o linell dir yn pasio’ch lleoliad i’r heddlu yn awtomatig.