Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid ffurflen ar gyfer riportio cam-drin domestig yw hon. Os ydych am wneud hynny, defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein.
Mae’r cynllun hwn yn galluogi’r heddlu i ryddhau gwybodaeth am unrhyw hanes blaenorol o drais neu gamdriniaeth a allai fod gan berson.
O dan Gyfraith Clare gallwch:
Sylwer: Nid yw’r Cynllun Datgelu Trais Domestig yn disodli gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ceisiadau gwrthrych am wybodaeth neu geisiadau rhyddid gwybodaeth (FOI).
Gofyn am wybodaeth o dan Gyfraith Clare: Gwneud cais Cynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS)
Gallwch wneud cais DVDS mewn tair ffordd:
Bydd angen y manylion canlynol arnoch, os yn bosibl, er mwyn gwneud eich cais:
Cyfartaledd amser cwblhau: 15 munud.
Sylwer: Ni fyddwch yn gallu cadw eich cais wrth i chi fynd drwy’r ffurflen; bydd gennych ddwy awr i gwblhau pob cam o’r ffurflen cyn y bydd yr amser yn dod i ben.
Cliciwch 'Dechrau' isod i gychwyn eich cais.
Gallwch wneud cais drwy ffonio 101.
Gallwch fynd i unrhyw orsaf heddlu i wneud cais. Bydd swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu yn cymryd ychydig o fanylion ac yn sgwrsio gyda chi am y camau nesaf.
Gofynnir i chi roi eich:
Cytunir ar ffordd ddiogel i gysylltu â chi a byddwn yn cynnal rhai gwiriadau cychwynnol er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw berygl neu bryderon sydd angen sylw ar frys. Os oes, neu os ydych yn dweud wrthym fod trosedd wedi digwydd (mae cam-drin domestig yn drosedd), efallai y byddwn yn gweithredu ar hynny.
Ein nod yw cynnal adolygiad cychwynnol o’r cais o fewn 24 awr er mwyn asesu’r canlynol:
Os bydd y cais yn mynd rhagddo caiff ei gyfeirio i dîm / uned er mwyn dilyn i fyny arno a bydd yn ceisio cysylltu â chi ynglŷn â chyfarfod wyneb yn wyneb, os oes angen un, o fewn 10 diwrnod gwaith i chi wneud eich cais.
Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod i’r cyfarfod hwnnw, yn ddelfrydol dull adnabod llun sydd â’ch dyddiad geni a’ch cyfeiriad arno (ee pasbort neu drwydded yrru).
Os nad oes gennych basbort neu drwydded yrru, efallai y byddwn yn derbyn math arall o ddull adnabod llun, tystysgrif geni, bil cyfleustodau neu gyfriflen banc.
Os byddwn yn penderfynu rhannu gwybodaeth am y person rydych yn holi yn ei gylch, byddwn ond yn rhannu’r wybodaeth honno gyda’r person sydd mewn perygl o gael ei niweidio neu’r person sydd yn y sefyllfa orau i ddiogelu’r person rhag niwed.
Os ydym yn credu bod rhywun mewn perygl, byddwn ni neu ein hasiantaethau partner yn gweithredu.
Ein nod yw cwblhau ceisiadau o fewn 28 diwrnod gwaith, ond gallai fod rhesymau pam ei bod yn cymryd yn hwy na hyn. Os ydyw, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Os ydych chi’n meddwl bod rhywun mewn perygl, neu eich bod yn amau neu’n gwybod am gam-drin domestig sy’n digwydd, ffoniwch ni ar 101 neu ei riportio ar-lein.
Dechrau