Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw gyda Phlant yn gadael i chi ofyn i’r heddlu yn ffurfiol a oes gan rywun sydd â chysylltiad â phlentyn neu blant:
Nid yw’n ddeddf, ond mae’n cael ei galw’n ‘Gyfraith Sarah’ weithiau.
Nid bwriad Cyfraith Sarah yw caniatáu i chi riportio rhywbeth i’r heddlu. Dywedwch wrthym fan hyn am rywbeth rydych wedi'i weld neu ei glywed neu edrychwch sut i riportio achos posib o gam-drin plant fan hyn.
Rydw i eisiau gwybod a oes gan rywun gofnod troseddol am droseddau rhyw yn erbyn plant
Gallwch wneud cais ar-lein am wybodaeth ynghylch a yw rhywun sydd â chysylltiad â phlentyn yn Droseddwr Rhyw Cofrestredig neu’n peri risg i’r plentyn hwnnw.
Byddwn yn gofyn i chi am:
Os nad ydych chi'n gwybod hyn i gyd, mae hynny'n iawn, dywedwch gymaint ag y gallwch.
Byddwn yn gwneud gwiriadau o fewn 24 awr, ac os ydyn ni’n credu bod plentyn mewn perygl uniongyrchol, byddwn yn gweithredu ar unwaith.
Os dydyn ni ddim yn meddwl bod perygl uniongyrchol, byddwn yn cysylltu er mwyn naill ai:
Dylai'r cyfweliad gael ei gynnal o fewn 10 diwrnod, ac ni ddylai'r broses gyfan gymryd mwy na 45 diwrnod.
Mwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais am wybodaeth o dan Gyfraith Sarah
Pan fyddwch yn barod, cliciwch ‘Dechrau’ i ddechrau cais ar-lein am wybodaeth o dan Gyfraith Sarah.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 10 i 15 munud
Dechrau