Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw gyda Phlant yn gadael i chi ofyn i’r heddlu yn ffurfiol a oes gan rywun sydd â chysylltiad â phlentyn neu blant:
Nid yw’n ddeddf, ond mae’n cael ei galw’n ‘Gyfraith Sarah’ weithiau.
Nid bwriad Cyfraith Sarah yw caniatáu i chi riportio rhywbeth i’r heddlu. Dywedwch wrthym fan hyn am rywbeth rydych wedi'i weld neu ei glywed neu edrychwch sut i riportio achos posib o gam-drin plant fan hyn.
Rydw i eisiau gwybod mwy am rywun rwy'n ei gyflogi
Gellir defnyddio Cyfraith Sarah ar gyfer ceisiadau am wybodaeth sy’n gysylltiedig â phlentyn neu blant penodol. Dylech ddefnyddio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) am wiriadau ar weithiwr neu rywun rydych chi'n ystyried ei gyflogi.
Os ydych chi eisiau dweud wrthym am rywbeth amheus neu bryderus sy’n ymwneud ag ymddygiad rhywun tuag at blant, gallwch weld sut i riportio achos posibl o gam-drin plant.