Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw gyda Phlant yn gadael i chi ofyn i’r heddlu yn ffurfiol a oes gan rywun sydd â chysylltiad â phlentyn neu blant:
Nid yw’n ddeddf, ond mae’n cael ei galw’n ‘Gyfraith Sarah’ weithiau.
Rydw i eisiau gwybodaeth am droseddwr rhyw rwyf wedi clywed amdano
Ni allwch ddefnyddio Cyfraith Sarah i gael gwybodaeth am droseddwr rhyw rydych wedi clywed amdano oni bai ei bod yn treulio amser ar ei ben ei hun gyda phlentyn rydych yn ei adnabod.
Mae Cyfraith Sarah yn gadael i chi ofyn i'r heddlu a yw rhywun penodol sy’n treulio amser ar ei ben ei hun gyda phlentyn neu blant yn Droseddwr Rhyw Cofrestredig neu’n risg i’r plentyn neu’r plant.
Os ydych chi eisiau dweud wrthym am rywbeth amheus neu bryderus sy’n ymwneud ag ymddygiad rhywun tuag at blant, gallwch weld sut i riportio achos posibl o gam-drin plant.
Sut mae Troseddwyr Rhyw Cofrestredig yn cael eu rheoli