Swyddog Heddlu
Does dim amheuaeth fod plismona yn yrfa heriol, ond mae hefyd yn un o’r swyddi mwyaf gwerth chweil y gallwch ei chael.
Mae cerdded y rhawd yn fwy o beth nag arestio pobl yn unig - mae’n ymwneud â deall y gymuned yr ydych yn ei gwasanaethu. Mae’n rhaid bod gennych y gallu i siarad gyda phobl ar eu lefel hwy, yn ogystal â pharchu’r gwahanol hiliau a chrefyddau sy’n gwneud De Cymru yn lle mor ddiddorol i fyw, gweithio ag ymweld â hi.
Mae pob dydd yn wahanol, ond atal troseddu, canfod troseddau a gwneud i’r bobl sydd yn eich ardal chi i deimlo’n fwy diogel fydd eich prif gyfrifoldebau.
Bydd swyddog heddlu da:
- yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid o’r safon orau bosibl
- yn cyfathrebu’n rhagorol
- yn dda o ran datrys problemau
- yn aelod gweithgar o’r tîm
- yn cymryd cyfrifoldeb personol dros sicrhau canlyniadau
Felly, os ydych yn ymateb i ddigwyddiad brys, yn cynnal cyfweliad â dioddefwr, neu’n casglu cudd-wybodaeth, rydych yn rhan allweddol o ‘Gadw De Cymru yn Ddiogel’.
Image not found. Please update the content of this webpart.