South Wales Police

PCSO

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Update: Dydd Gwener:  4 Mai 2012

Mae’r broses sifftio papur gychwynnol o bob ymgeisydd wedi’i chwblhau, a byddwn yn cysylltu â phawb a fu’n llwyddiannus yn y cam hwn drwy e-bost. 

Byddwn yn cysylltu â rhai ymgeiswyr yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth er mwyn prosesu’u cais, os pennwyd bod angen gwneud hyn.

'''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''


Yn ei hanfod, mae Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gwneud beth mae’r teitl yn ei ddweud. Mae’n darparu cyswllt hanfodol rhwng y gymuned a gwasanaeth yr heddlu i sicrhau fod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Drwy ymgysylltu â’r bobl yn eich ardal, byddwch yn cymryd y blaen i ymchwilio i’r hyn mae’r cyhoedd ei eisiau a’r hyn y gall Heddlu De Cymru ei wneud i gael canlyniadau.
Os yw’n ymwneud ag atal goryrru tu allan i’n hysgolion, reportio fandaliaeth, neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd eich gwaith yn gwneud gwir wahaniaeth i gadw De Cymru yn ddiogel.

Bydd disgwyl i chi:

 

  • Ffurfio cysylltiadau cadarn hirdymor rhwng y gymuned a gwasanaeth yr heddlu
  • Cynorthwyo swyddogion heddlu i leihau troseddau ac ofni troseddau
  • Cynnal patrolau amlwg ar droed
  • Casglu cudd-wybodaeth am bobl dan amheuaeth a delio â throseddau bychan
  • Darparu diogelwch mewn digwyddiadau mawr

 

Nid oes gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu'r pŵer i arestio, ond yn hytrach mae ganddynt sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn diogelu’r gymuned mewn capasiti nad yw’n wrthdrawiadol.

Byddwch yn ychwanegiad i’r teulu plismona, a bydd eich presenoldeb parhaus yn y gymdogaeth yn rhyddhau adnoddau eraill i ddelio â throseddau mwy difrifol.

Share

100 Cyflogwr Gorau

100 Cyflogwr Gorau

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Yn gadarn o blaid pobl anabl
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice