South Wales Police

Diogelwch Data

Data Protection

Diogelu Data

Mynediad i Wybodaeth

Mae darpariaethau Cais Gwrthrych y Ddeddf Diogelu Data yn rhoi hawl i unigolyn gael copi o unrhyw ddata personol sy’n cael ei gadw amdanynt, yn amodol ar rai eithriadau.

Mae Adran 7 o’r Ddeddf yn nodi bod gan ‘wrthrych y data’ (yr unigolyn mae’r data yn cyfeirio ato) hawl, ar gais ysgrifenedig, i gael eu hysbysu os oes data personol yn cael ei gadw neu ei brosesu amdanynt.

Os hoffech wybod pa wybodaeth (os o gwbl) sydd gan Heddlu Gogledd Cymru amdanoch, rhaid i chi lenwi ffurflen Cais am Fynediad i Wybodaeth.  Bydd rhaid cynnwys taliad o £10.00, prawf adnabod a digon o wybodaeth i’n galluogi i ddod o hyd i’ch data personol gyda’ch ffurflen gais.

Mae ffurflenni cais ar gael o bob prif orsaf heddlu, neu drwy ysgrifennu at:

Y Swyddog Diogelu Data
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU

Rhif ffôn: 01656 869356

Neu gallwch lawrlwytho ffurflen gais o wefan Heddlu De Cymru.

Gellir dychwelyd y ffurflen gais wedi’i llenwi, ffi o £10 a’r dystiolaeth adnabod briodol (gweler y ffurflen am fanylion) drwy’r post neu gallwch fynd â nhw i unrhyw orsaf heddlu y ardal Heddlu De Cymru.  Nid ydym yn gallu derbyn ffurflenni cais drwy e-bost na ffacs.

Sylwer, ar ôl i ni dderbyn eich cais, gall y broses o ddarparu’r wybodaeth i chi gymryd hyd at 40 diwrnod.

F.337 Ffurflen Mynediad i Wybodaeth Maint: [25 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Tystysgrifau'r Heddlu

Dylai unigolion y mae angen Tystysgrifau’r Heddlu arnynt at ddibenion cais am allfudo, fisâu, trwyddedau gwaith neu breswylio yn Awstralia, Canada, Seland Newydd, De Affrica ac Unol Daleithiau America lawrlwytho’r ffurflen gais neu Dystysgrif Heddlu ACPO o wefan ACPO.  Sylwer, caiff y dystysgrif hon ei brosesu’n llwyr gan Swyddfa Cofnodion troseddol ACPO (ACRO).  Dylid cyfeirio pob cyflwyniad ac ymholiad ynghylch y broses hon at ACRO drwy’r manylion cyswllt isod:

·                      Rhif ffôn: 0845 6013999 (yn ystod oriau agor y swyddfa, sef 8:30am-4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener)

·                      E-bost: acro.policecertificates@acro.pnn.police.uk

·                      Cyfeiriad: ACRO, Blwch Swyddfa’r Post 481, Fareham, PO14 9FS

Peidiwch â dychwelyd y ffurflen at Heddlu De Cymru.

Ceisiadau am wybodaeth at ddibenion cyflogaeth

Nid yw Heddlu De Cymru yn darparu datgeliadau PNC ar gyfer gwasanaethau archwilio cefndir ar gyfer cyflogaeth. Os oes angen datgeliad arnoch at ddibenion cyflogaeth, cysylltwch â Disclosure Scotland ar: 0870 6096006 neu ewch i wefan Disclosure Scotland

Mae’r weithdrefn gyfredol pan fydd cwmnïau yn gofyn i unigolion ddefnyddio eu hawliau o dan ddarpariaeth Gwrthrych Gwybodaeth Adran 7 Deddf Diogelu Data 1998 fel ffordd o archwilio cefndir wedi’i ystyried i fod yn anghyfreithlon am nifer o flynyddoedd ac mae’n mynd yn groes i egwyddor y ddeddfwriaeth. Pan gaiff Adran 56 ei rhoi ar waith bydd hi’n drosedd i gyflogwr ofyn i unigolyn fynd drwy’r broses hon, fel amod cyflogaeth.

Os ydych yn mynd i weithio fel gweithiwr cyflogedig neu wirfoddol ar gyfer sefydliad a bod eich gwaith fel y gweithiwr cyflogedig neu fel gwirfoddolwr ar gyfer y sefydliad yn cynnwys dod i gyswllt â phlant neu oedolion sy’n agored i niwed a bod y sefydliad wedi gofyn i chi gwblhau gwiriad gan y swyddfa cofnodion troseddol yna ewch i wefan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a dilyn y weithdrefn.

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice