South Wales Police

Dros y ffôn

Dros y ffôn

101

101 yw’r rhif ffôn ar gyfer cysylltu â Heddlu De Cymru i roi gwybod am drosedd ac anrhefn nad oes angen ymateb brys ar eu cyfer.

Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser. Gwnewch hyn pan fydd angen ymateb ar unwaith oherwydd bod trosedd ar y gweill, mae rhywun a ddrwgdybir o drosedd gerllaw, pan fo bywyd mewn perygl neu pan ddefnyddir neu y bygythir defnyddio trais.

Dylai’r cyhoedd ffonio 101 ar gyfer:

•Car wedi’i ddwyn
•Eiddo wedi’i ddifrodi
•Rhoi gwybodaeth am ddelio neu ddefnyddio cyffuriau
•Rhoi gwybod am wrthdrawiadau traffig llai
•Rhoi gwybodaeth am droseddau eraill

Manteision 101 i’n cymunedau:

•Un rhif ffôn sy’n hawdd i’w gofio
•Llai o bwysau ar alwadau brys 999

Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ffonio’r ffôn testun ar 18001 101. Os ydych yn cael anhawster siarad Cymraeg neu Saesneg, gall Heddlu De Cymru drefnu cyfieithydd i gyfieithu’ch galwad.

Mwy o wybodaeth am 101

Beth fydd y gost?
15c yw cost pob galwad o linellau tir a rhwydweithiau symudol, beth bynnag yw’r amser neu hyd yr alwad.


Sut mae’n gweithio?
Gallwch ffonio 101 i gysylltu â’ch heddlu lleol, ac mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.  Caiff galwadau i 101 eu hateb gan drinwyr galwadau eich heddlu lleol.

Pryd i ddefnyddio 101
101 yw’r rhif i’w ffonio os yw eich car wedi’i ddwyn, eich eiddo wedi’i ddifrodi, i roi gwybodaeth am ddelio neu ddefnyddio cyffuriau, i roi gwybod am wrthdrawiadau traffig llai ac i roi gwybodaeth i’r heddlu am droseddau eraill.

Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser
Cofiwch ffonio 999 mewn argyfwng bob amser pan fo angen ymateb brys i drosedd ar y gweill, mae rhywun a ddrwgdybir o drosedd gerllaw, pan fo bywyd mewn perygl neu pan ddefnyddir neu y bygythir defnyddio trais.

Sut mae’r gwasanaeth 101 newydd yn wahanol i’r rhaglen 101 wreiddiol?
Bellach 101 yw rhif cenedlaethol yr heddlu pan nad yw’n fater brys, sy’n cysylltu’r galwyr yn uniongyrchol â’u heddlu lleol.  Bu’r rhaglen 101 wreiddiol yn peilota cyflwyno 101 fel partneriaeth rhwng yr heddlu a chynghorau lleol.

Beth yw manteision 101?
Bydd 101 yn ei gwneud hi’n haws i’r cyhoedd gysylltu â’u heddlu lleol a gall wella proses rhoi gwybod am droseddau ac anhrefn.  Bydd hefyd yn helpu i leihau’r pwysau ar alwadau brys 999.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.police.uk/101

Share

100 Cyflogwr Gorau

100 Cyflogwr Gorau
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice