South Wales Police

Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn

Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol

Child Sex Offender Disclosure Scheme

Beth yw’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol?
Mae plant yn fwy tebygol o gael eu cam-drin gan aelod o’r teulu neu ffrind i’r teulu nag unigolyn hollol ddieithr.  Mae tua 75 y cant o’r bobl sy’n cam-drin plant yn rhywiol naill ai’n perthyn neu’n adnabyddus i’r dioddefydd.   Datblygwyd y Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Mae’r cynllun yn galluogi aelodau’r cyhoedd - rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid neu drydydd parti sydd â diddordeb – i wneud cais i’r heddlu am wybodaeth os ydynt yn pryderu am unigolyn sydd â mynediad at blentyn.

Mae’r heddlu eisoes yn datgelu gwybodaeth ynghylch troseddwyr rhyw cofrestredig a throseddwyr treisgar mewn modd rheoledig i amryw o bobl gan gynnwys prif athrawon, rheolwyr canolfannau hamdden, cyflogwyr, landlordiaid a rhieni. Mae’r cynllun datgelu yn arf ychwanegol y gall yr heddlu ei ddefnyddio i ddiogelu plant.

Pryd fydd gwybodaeth yn cael ei datgelu?
Ni ddatgelir gwybodaeth oni fydd yr heddlu’n credu bod hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur a diogelu’r plentyn.   Rhennir y wybodaeth gyda’r sawl sydd yn y sefyllfa orau i ddiogelu’r plentyn yn unig, a rhaid i unrhyw un sy’n derbyn gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol a’i defnyddio i ddiogelu’r plentyn dan sylw yn unig.

Nid fersiwn y Deyrnas Unedig o ‘Gyfraith Megan’ yw’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant.  Dan y cynllun hwnnw, sy’n gweithredu yn yr Unol Daleithiau cyhoeddir pob gwybodaeth am droseddwyr rhyw.  Yma yn y DU, gall yr heddlu gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n torri cyfrinachedd o fewn cynllun.

Sut all aelod o’r cyhoedd wneud cais am wybodaeth?
Gallwch gyflwyno cais am wybodaeth i’r heddlu mewn llythyr, dros y ffôn neu drwy alw mewn gorsaf yr heddlu neu siarad â heddwas.  Bydd eich cais yn cael ei rheoli gan Uned Diogelu’r Cyhoedd yr heddlu a fydd yn cysylltu â chi cyn gynted ag y caiff eich cais ei gofnodi ar gronfa ddata’r heddlu.

Rhif Di-frys: 101

Pencadlys Heddlu Dyfed Powys, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF
Pencadlys Heddlu Gwent, Croesyceiliog, Cwmbran, NP44 2XJ
Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU
Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan-y-Don, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8AW

Byddwn angen eich manylion chi, y plentyn rydych yn credu sydd mewn perygl a’r sawl rydych yn pryderu amdanynt. Os ydych yn credu bod y plentyn mewn perygl dybryd, ffoniwch 999.   Byddwn yn delio â’ch pryderon yn unol â’r trefniadau diogelu plant sydd eisoes yn bodoli.

For further information the Child Sex Offender Disclosure Scheme please download the below booklet and flyer.

Information document Maint: [2.22 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
The Child Sex Offender Disclosure Scheme Maint: [2.13 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Disclosure information pocket leaflet Maint: [383 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice