South Wales Police

Codi Tâl am Wasanaethau’r Heddlu

Codi Tâl am Wasanaethau’r Heddlu

Adran 25 Deddf yr Heddlu 1996

'Gall Prif Swyddog Heddlu ddarparu, ar gais unrhyw berson, wasanaethau plismona arbennig mewn unrhyw eiddo neu unrhyw ardal o fewn ardal yr Heddlu a gynhelir gan yr Awdurdod, yn amodol ar daliad i Awdurdod yr Heddlu am gostau ar raddfeydd a bennir gan yr Awdurdod hwnnw.'

Mae gan Heddlu De Cymru hawl i godi tâl am blismona rhai digwyddiadau penodol, gan gynnwys gemau pêl-droed, ymweliadau gan VIP (ac eithrio aelodau Teulu Brenhinol), am ddefnyddio’r ddalfa, digwyddiadau masnachol, digwyddiadau elusennol, digwyddiadau cymunedol, digwyddiadau statudol ac achlysuron preifat.

Mae’r Heddlu yn defnyddio canllaw cenedlaethol ar gyfer codi tâl am blismona digwyddiadau er mwyn gwneud iawn am y gost i drethdalwyr am y goramser a staffio ychwanegol angenrheidiol ar gyfer rhai digwyddiadau.

Ein prisiau yr awr ar hyn o bryd yw:


 

Normal

Bank Holiday

C Supt

£102.77

 

 

Supt 

£91.93

 

 

C Insp

£73.03

 

 

Insp 

£69.32

 

 

Sgt 

£69.72

£109.20

 

PC

£60.55

£94.60

 

PCSO

£28.61

£41.29

 


Mewn rhai achosion gellir defnyddio aelodau o staff yn lle swyddogion i gyflawni rhai rolau arbenigol.  Mae’r prisiau ar gyfer hyn yn dibynnu ar y rôl, a gellir eu darparu i drefnwyr digwyddiadau ar gais.

Os oes gennych ymholiad mewn perthynas â’r polisi hwn, e-bostiwch

pre-plannedevents@south-wales.pnn.police.uk

Prisiau ar 1 Ebrill 2012

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice