Drwy’r Ddeddf Elw Troseddau, gall yr heddlu gymryd yr enillion a’r eiddo mae troseddwyr wedi ennill drwy eu ffordd o fyw troseddol - hyd yn oed os na chânt eu collfarnu am y drosedd a gyflawnwyd.
Mae ymgyrchoedd ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru, Tîm Adfer Asedau Rhanbarthol Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed Powys a nifer o asiantaethau eraill, gyda’r nod o wneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau troseddau a darparu cyfiawnder drwy gosbi’r bobl sy’n elwa o ddioddefaint pobl eraill.
Mae hyn yn cynnwys adfer asedau drwy atafaeliad a fforffedu, fel rhan allweddol o ymchwiliad troseddol, gan darfu ar y bobl sy’n gwyngalchu arian, gan gyfeirio achosion addas at yr Asiantaeth Troseddu Difrifol a Chyfundrefnol (SOCA), a defnyddio pob math o gudd-wybodaeth ariannol.
Bydd unrhyw arian a gaiff ei gymryd ymaith yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwaith adfer pellach i atal mwy o droseddwyr rhag elwa ar ddioddefaint pobl eraill.
Bydd arian hefyd yn cael ei glustnodi i ‘Ad-dalu’r Gymuned’, cronfa sy’n rhoi llais i gymunedau ar sut y gallai asedau troseddol gael eu gwario’n lleol.
Cymryd Arian oddi wrth Troseddu
Mae Ymgyrch Ad-dalu yn gofyn i aelodau’r cyhoedd reportio gwybodaeth sy’n ymwneud â phobl sy’n elwa ar weithgaredd troseddol. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth nad pobl sy’n delio â chyffuriau’n unig sy’n gwneud arian, ond troseddwyr eraill hefyd.
Er enghraifft:
- Pobl sy’n bwrglera o’n cartrefi
- Pobl sy’n dwyn ein ceir
- Pobl sy’n ein twyllo
- Pobl sy’n dwyn ar y stryd
- Pobl sy’n gwerthu nwyddau ffug
- Pobl sy’n delio â nwyddau wedi’u dwyn
- Pobl sy’n gwerthu sigaréts ac alcohol sydd wedi’u smyglo o dramor
Peidiwch â gadael i droseddwyr fwynhau’r bywyd da ar ein traul ni. Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn amau fod aelod o’r cyhoedd yn byw ar elw troseddau, reportiwch y peth drwy ffonio 101 neu gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.