South Wales Police

Twyll

Twyll

Fe allai pobl feddwl am dwyll fel gêm yn ymwneud â symiau mawr o arian nad yw’n effeithio ar bobl arferol, ond mewn realiti mae twyll yn effeithio arnom ni oll.

Mae twyll yn digwydd pan fydd person yn twyllo rhywun arall er mwyn cael arian, nwyddau neu wasanaethau. Y darlun mawr yw bod hyn yn difrodi ein heconomi, yn cynyddu costau i brynwyr ac yn golygu bod llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Hefyd, gall twyll gael effaith ddifrifol ar ddioddefwyr. Os yw’r drosedd yn ddigon difrifol, gall pobl golli eu bywoliaeth.
Y math mwyaf cyffredin o dwyll yw twyll cerdyn banc.

Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys:

 

  • Twyll hunaniaeth
  • Twyll nwyddau ffug
  • Twyll cyfrifiadurol
  • Twyll budd-daliadau
  • Twyll cyflogaeth
  • Twyll eiddo



Gweler isod rai rhagofalon syml y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun rhag troseddau yn ymwneud â thwyll:

 

  • Lle bo’n bosib, cadwch eich cardiau credyd a debyd arnoch yn eich waled neu yn eich pwrs.
  • Os ydych yn talu bil mewn siop neu mewn bwyty, gwnewch yn siŵr eich bod yn bresennol ar gyfer y gwerthiant yn hytrach na gadael i’r aelod o staff neu’r person oedd yn eich gweini i fynd â’ch carden i ffwrdd i’w brosesu mewn man arall.
  • Peidiwch â gadael cerdiau banc lle gallai ymwelwyr i’ch cartref eu gweld nac wrth y ffenestri yn eich cartref.
  • Defnyddiwch beiriant rhwygo papur i rwygo a gwaredu ar unrhyw ddogfennau sy’n cynnwys eich enw, cyfeiriad ac unrhyw fanylion personol eraill.
  • Sicrhewch fod unrhyw ddogfennau personol, fel eich tystysgrif geni, pasbort, trwydded yrru a manylion banc yn cael eu storio mewn man diogel yn eich cartref.
  • Peidiwch byth â phostio arian mewn ymateb i alwadau ffôn neu lythyron nad oeddech yn eu disgwyl.
  • Sicrhewch fod eich cyfrifiadur wedi’i ddiogelu er mwyn atal e-droseddu
  • Amgryptiwch ddata eich ffôn gydag allwedd WEP (Wired Equivalent Privacy) / WPA (Wi-Fi Protected Access) i atal pobl rhag rhyng-gipio eich ffôn symudol.
  • Gosodwch y diogelwch ar eich safleoedd rhyngweithio cymdeithasol yn uwch er mwyn atal pobl rhag cam-ddefnyddio eich manylion personol.
  • Pan fyddwch yn prynu ar eBay, cadwch at werthwyr sydd wedi cael adborth da. Os ydych yn gwerthu, peidiwch ag anfon eich eitem hyd nes i chi dderbyn y taliad. Defnyddiwch Paypal yn unig wrth brynu a gwerthu ar eBay.
  • Peidiwch â rhoi gwybodaeth gyfrinachol fel manylion eich cerdyn credyd dros y ffôn neu mewn e-bost.
  • Os ydych yn symud, gwnewch yn siŵr bod eich post yn cael ei ailgyfeirio. Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll cerdyn banc, reportiwch y digwyddiad ar unwaith i’ch banc neu gwmni cerdyn credyd.


Mae gan Heddlu De Cymru Uned Troseddau Economig penodedig sy’n arbenigo mewn ymchwilio i achosion twyll. Peidiwch â gadael i droseddwyr eich twyllo - helpwch ni i’w collfarnu. Os credwch eich bod chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i ni.
I reportio digwyddiad nad yw’n argyfwng i Heddlu De Cymru ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

I gael rhagor o wybodaeth ar y gwahanol fathau o dwyll a sut y gallwch ddiogelu eich hun a reportio twyll, ewch i wefan canolfan reportio twyll cenedlaethol y DU: www.actionfraud.org.uk

Share
Action Fraud

Action Fraud is the place for you to find out about fraud.

Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice