Tocynnau Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012
Mae Ymgyrch Podiwm y Met yn eich annog i ddilyn y cyngor canlynol er mwyn eich diogelu chi, a’ch manylion personol chi, eich teulu a’ch ffrindiau rhag cael eu cam-ddefnyddio gan droseddwyr.
TOCYNNAU:
Os ydych yn prynu tocyn ar gyfer y Gemau:
- Gwnewch gais am docyn ar-lein yn unig www.tickets.london2012.com.
- Os cewch docyn am ddigwyddiad na allwch fynychu, mae modd dychwelyd eich tocyn a chael eich arian yn ôl drwy system cyfnewid tocynnau swyddogol Llundain 2012. Bydd eich tocyn yna’n cael ei ail werthu yn swyddogol.
- Peidiwch â phrynu tocyn o wefan nad yw’n awdurdodedig neu wrth dowt. Rydych yn wynebu risg cael eich twyllo, fe allech fod mewn sefyllfa lle cewch docyn sy’n wahanol i’r hyn yr oeddech eisiau ac y gwnaethoch dalu amdano.
- Dim ond tri darparwr swyddogol sydd yn trefnu Gwyliau Gemau a Phecynnau Lletygarwch yn y DU - dyma nhw:
Thomas Cook - www.thomascooklondon2012.com
Prestige Travel - www.prestigeticketing.london2012.com
Jet Set Travel - www.jetsetsports.com
- Nid oes gwefannau na chwmnïau eraill wedi’u hawdurdodi i werthu tocynnau fel rhan o becyn. Gwiriwch y telerau a’r amodau bob tro i weld beth yn union yr ydych yn ei brynu.
Os dewch ar draws tocynnau neu ar gael wrth ffynhonnell nad yw’n awdurdodedig ar unrhyw adeg, peidiwch â’u prynu. Twyll ydyw.
Reportiwch y mater i www.actionfraud.org.uk neu i Llundain 2012 brandprotection@london2012.com neu i’ch heddlu lleol