South Wales Police

Gwarchod y Gymdogaeth

Gwarchod y Gymdogaeth

Neighbourhood Watch

Gwarchod Cymdogaeth yw un o’r mentrau atal troseddau mwyaf llwyddiannus a mwyaf o ran maint, erioed. 

Mae’n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth gyda’ch cymdogion i gadw llygad ar eich gilydd ac eiddo eich gilydd, a reportio unrhyw weithgaredd amheus i’r heddlu.

Mae gan y cynllun Gwarchod Cymdogaeth gefnogaeth lawn Heddlu De Cymru, ac mae wir yn gallu cynorthwyo gyda diogelu eich ardal leol rhag troseddu.
Gall y cynllun:

  • leihau troseddau drwy reportio unrhyw beth amheus yn gyflym
  • lleihau cyfleoedd i droseddu drwy godi ymwybyddiaeth ynghylch camau  syml i’w cymryd
  • cynorthwyo a thawelu meddyliau’r bobl sy’n byw yn yr ardal
  • annog ymdeimlad o gymdogaeth a chymunedau agosach


Mae ‘Gwarchodaeth’ fel arfer yn digwydd pan fydd aelod o’r gymuned yn gwirfoddoli i fod yn Gydlynydd ar gyfer y stryd, bloc o fflatiau, ystâd, neu ardal gyffredinol. Mae’r Cydlynydd yna’n cofrestru gyda’r Gymdeithas Gwarchod Cymdogaeth, ac yn ymweld â chymdogion i drafod ymuno â’r cynllun.

Fel Cydlynydd, chi fydd yn cysylltu â’r heddlu yn rheolaidd i drafod gwybodaeth newydd, a chi fydd yn gyfrifol am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’ch Gwarchodaeth.

Bydd unrhyw weithgaredd ychwanegol yn ddewis i chi. Efallai y byddwch am gynnal cyfarfodydd anffurfiol gydag aelodau eraill y Warchodaeth, cyfarfod â Chydlynwyr eraill i rannu gwybodaeth, neu ffurfio grŵp o bob Cydlynydd yn eich ardal a gwahodd cynrychiolydd o’r heddlu er mwyn trafod lles eich cymuned yn y dyfodol.

Fe allech chi neu aelodau eraill y Warchodaeth hefyd fynd i’ch cyfarfod PACT lleol i drafod y wybodaeth ddiweddaraf gyda’ch tîm plismona cymdogaeth.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn eich ardal, ffoniwch eich Cynghorydd Tactegol Lleihau Trosedd.

Caerdydd: Bob Keohane - 029 2052 7432
 
Abertawe: Tony Pain - 01792 562768

Bro Morgannwg: Dick Collins – 01446 731627

Pen-y-bont ar Ogwr: Deborah Elward - 01656 679558

Castell-nedd / Port Talbot: Mary Williams - 01639 889178

Merthyr Tudful: Stephen Cooke - 01685 724267

Rhondda Cynon Taf: Anthony Pitt - 01685 724266

De Cymru: Rhiannon Williams – 029 20 527447


Llinell Gymorth Minicom i bobl fyddar: 01656 656980

Alternatively, visit: www.neighbourhoodwatch.net

To find out more about your local neighbourhood policing team, visit www.einbobi.com

Share
Crimestoppers

Call anonymously with information about crime
or use secure online form

Heddlu De Cymru yw’r 8fed heddlu sydd wedi gwella orau yn genedlaethol mewn lleihau troseddau yn gyffredinol, gyda 14,000 yn llai o ddioddefwyr trosedd
Hafan