
South Wales Police Fleet
IR3+
Mae’r system drefnu ac adnodd arloesol iR3+ wedi gwneud gwahaniaeth mawr i blismona yn ne Cymru ers ei lansio ym mis Medi 2011. Cyflwynwyd i helpu rheolwyr gweithrediadol i alinio gweithgarwch adnoddau ag anghenion ein cymunedau. Fe’i defnyddir yn ddynamig i friffio a gosod tasgau i’r swyddogion rheng flaen, ac ar yr un pryd mae’n rhoi gwybodaeth fanwl ar berfformiad i’r rheolwyr.
Meddai Prif Arolygydd Darren Phillips “Mae’n system sydd wedi’n helpu i ymateb i bryderon y gymuned a darparu’r gwasanaeth gorau posib.”
Trosolwg o’r System: AVLS, APLS, Allwedd Dallas a Waymarker
Mae tracio amser byw y System Lleoli cerbydau yn Awtomatig (AVLS) a’r System Lleoli Pobl yn Awtomatig (APLS) yn darparu llun cyflawn o leoliad swyddogion a cherbydau ar unrhyw adeg ar draws de Cymru.
Mae dealltwriaeth fel hyn o weithgarwch adnoddau yn gwella iechyd a diogelwch swyddogion, a hefyd yn rhoi cymorth gweledol i’r rheolwyr i gyfeirio’r adnoddau agosaf a mwyaf priodol
Mae defnyddio technoleg allwedd (Dallas) electronig yng ngherbydau’r heddlu yn dweud wrthym pwy sy’n gyrru’r cerbyd ar hyn o bryd neu wedi’i yrru yn y gorffennol
Mae cyflwyno waymarker (meysydd diffiniedig blaenoriaethau plismona) yn amlygu pryderon lefel lleol a’r gofyniad lleiaf o ran amser patrolio a gweithredu dilynol y mae eu hangen yn y meysydd hyn
Mae data iR3+ yn ein galluogi i arddangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni yn y meysydd blaenoriaeth yn y cyfarfodydd PACT
Gellir mesur lefelau patrolio a’u cymharu â’r nifer o ddigwyddiadau. Mae hyn yn galluogi rheolwyr i wneud penderfyniadau dynamig ynghylch patrolio i ddiwallu galw sy’n amrywio
Manteision: Arbedion Ariannol, Gwelededd Gwell a Fflyd Wyrddach
Arbed dros £1.5 miliwn; mae iR3+ wedi helpu i gyflawni arbed £840,000 ar gyfer cyfnod 2010/11, a rhagwelir arbedion pellach gwerth £695,000 ar gyfer 2011/12.
Gwelededd PCSO gwell; gyda gwelliant o 11% yn ystod y prosiect peilot.
Mae’r system hefyd yn helpu swyddogion i ddangos i’r gymuned yr hyn maent wedi bod yn ei wneud i atal a mynd i’r afael â throseddu mewn ardal leol benodol
Mae iR3+ hefyd wedi galluogi ymagwedd ar sail tystiolaeth i’r galw am fflydoedd, a hwyluso gweithredu i wneud cerbydau'r heddlu yn fwy effeithlon, effeithiol a gwyrdd, gan gynnwys arbedion ar gostau tanwydd a gwasanaethu