Beth rydym ni’n ei wneud...
Yn unol â gweledigaeth Heddlu De Cymru, nod yr Uned Gymorth Lleiafrifoedd Ethnig (UGLlE) yw gweithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid i greu de Cymru gwell, mwy diogel i’n cymunedau lleiafrifol. I gyflawni’r nod hwn mae’r UGLlE a Swyddogion Troseddau Casineb yr Unedau Rheoli Sylfaenol (URS) yn gweithio gyda staff rheng flaen i gynorthwyo a chefnogi wrth ddelio â’n cymunedau lleiafrifol, yn enwedig mewn perthynas â dioddefwyr troseddau casineb a digwyddiadau tyngedfennol. Yn ogystal, rydym yn gallu rhoi cyngor a chymorth ar amrywiaeth eang o faterion a allai effeithio ar ein cymunedau lleiafrifol.
Blaenoriaethau Craidd yr UGLlE yw:
Cynyddu
hyder ac
ymddiriedaeth
cymunedau lleiafrifol de Cymru yn yr Heddlu;
Hybu
cydlyniad cymunedol gyda’n
partneriaid ledled cymunedau de Cymru;
Mynd i’r afael â
throseddau casineb a
digwyddiadau casineb drwy ddarparu’r gwasanaeth gorau posib gyda’r nod o gyflawni lefelau uchel o foddhad dioddefwyr;
Mynd i’r afael â throseddu a gwrthod
hawliau dynol yn erbyn ac o fewn cymunedau lleiafrifol de Cymru;
Gweithio gyda’n partneriaid i bennu ac
ATAL amlygiad
eithafiaeth o fewn ein cymunedau;
Darparu cefnogaeth, arweiniad a
chyngor arbenigol i staff a chymunedau Heddlu De Cymru ar faterion diwylliannol a threftadaeth cymunedau lleiafrifol.
Mae meysydd gwaith ychwanegol y mae’r UGLlE yn rhoi cyngor ac arweiniad arnynt yn cynnwys:
·
Priodasau gorfodol a thrais sy’n seiliedig ar anrhydedd
·
Materion sipsi a theithwyr
·
Strategaeth PREVENT
·
Materion Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol
·
Materion Trawsryweddol
·
Materion gweithwyr mudol a cheiswyr lloches
·
Grŵp Ymgynghorol Annibynnol
Gellir cysylltu â staff yr Uned Gymorth Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer cefnogaeth a chyngor cyfrinachol:
Pennaeth yr Uned – Arolygydd Nigel Crates
01639 889183 neu 07951 724773
Rhingyll Leighton Thomas
029 2022 2111, estyniad 60733 neu ffôn symudol 07837 401107
Swyddog Datblygu a Pholisi – Suzanne Sweeney
029 2022 2111, estyniad 60734 neu ffôn symudol 07976 633962
Swyddogion Ymgysylltu â’r Gymuned:
Caerdydd
Cwnstabl Richie Paines
Gorsaf Heddlu Canton
029 2052 7234 / 07814 584985
Merthyr / Rhondda / Cynon / Taf
Cwnstabl Bridget Daly
Gorsaf Heddlu Pentre’r Eglwys
01443 743672 / 07813 900712
Abertawe / Castell-nedd / Port Talbot
Cwnstabl Phil Bryant
Gorsaf Heddlu Port Talbot
01639 889185 / 07967 260788
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwnstabl Julie Upcott
Arweinydd Strategol PREVENT yr Heddlu hefyd
Gorsaf Heddlu Port Talbot
01639 889125 / 07779 517935
Y Barri, Penarth a Bro Morgannwg
Cwnstabl Claudia Kinrade
Arweinydd Strategol Priodasau Gorfodol a Thrais sy’n Seiliedig ar Anrhydedd yr Heddlu hefyd
029 2057 1610 / 07866 787631
Sylwer:
Nid yw staff yr Uned Gymorth Lleiafrifoedd Ethnig ar ddyletswydd 24 awr y dydd, ond mae’r Uned wedi’i staffio saith niwrnod yr wythnos.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng