RYDYM WEDI DEWIS EIN CWNSTABLIAID GŴN BUDDUGOL!
Mae Swyddogion Adran Gŵn Heddlu De Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn wrth feirniadu’r Gystadleuaeth Cŵn Gwnstabliaid.
Ond gydag ychydig o help gan Barry the Bassett Hound o Real Radio, gallwn gyhoeddi mai’r enillwyr yw...
Elle Davies-Williams a Chwnstabl Gi Hero
A
Cerys Johnson a Chwnstabl Gi Carly
Llongyfarchiadau i’n dwy enillydd!
Enillodd y pâr lwcus ymweliad VIP ag Adran Gŵn Heddlu De Cymru!

Cwnstabl Gi Carly
Dyma luniau’r enillwyr...
Cerys Johnson
, 9 oed o Ben-y-bont ar Ogwr:
"Mae gan Carly drwyn da ac mae’n gallu arogli cyffuriau a llawer, llawer mwy "

Cwnstabl Gi Hero
Elle Davies-Williams,
7 oed o Aberdâr:
"Mae Hero yn dwlu ar helpu ei berchennog i ddod o hyd i droseddwyr ac arogli cyffuriau drwg a’ch cadw’n ddiogel "

Cwnstabl Gi Tyson
A heb anghofio’r goreuon o’r gweddill, a oedd yn agos at y brig...
Ethan Carter a Chwnstabl Ci Tyson:
"Gall Tyson gadw de Cymru’n ddiogel oherwydd ei fod yn gallu arogli lladron, cyffuriau, drylliau a lle mae lladron yn cuddio "

Cwnstabl Gi Dylan y Ddraig
Sara Wells a Chwnstabl Ci Dylan y Ddraig:
"Bydd Dylan yn helpu i roi pobl ddrwg yn y carchar a chadw’n strydoedd yn ddiogel "

Cwnstabl Gi Radar
Caitlin Davies a Chwnstabl Gi Radar:
"Gyda’i synhwyrau gwych a’i gryfder anhygoel, bydd Radar yn ein cadw’n ddiogel a’n diogelu rhag pob math o beryglon "

Cwnstabl Gi Sherlock
Eryn Aston a Chwnstabl Gi Sherlock:
"Bydd Cwnstabl Gi Sherlock yn diogelu ein cartrefi ('holmes') drwy arogli’r byrgleriaid "

Cwnstabl Gi Llew
Sion Wells a Chwnstabl Gi Llew:
"Bydd Llew yn defnyddio’i lygaid i weld a synwhyro peryglon, ac yn defnyddio’i drwyn i arogli pobl a gwrthrychau cuddiedig "

Cwnstabl Gi Sonic
Lloyd Gunner a Chwnstabl Gi Sonic:
"Bydd Sonic mor gyflym y bydd yn cwrso’r bobl ddrwg i gyd!"