Amdanom ni
Agorodd Adran Gŵn Heddlu De Cymru ei drysau ar 23 Awst 1960 wedi dyfodiad pedwar Ci Defaid yr Almaen a thîm o drafodwyr cŵn ifanc.
Ers hynny mae ein Hysgol Hyfforddi C
ŵn wedi dod yn un o’r
sefydliadau mwyaf dylanwadol ac uchaf ei barch yn y DU.
Fel rhan o’r Adran Cymorth Gweithredol darpara’r Adran Gŵn gymorth ac atgyfnerthiad i swyddogion yr Heddlu ledled rhanbarth de Cymru.
O ganlyniad i flynyddoedd o hyfforddiant ymroddgar mae Ysgol Gŵn Heddlu De Cymru wedi helpu i sefydlu’r ci fel aelod hanfodol o’r tîm plismona.
Drwy gydweithio â’u trafodwyr a swyddogion rhanbarthol, mae’r cŵn yn sicrhau bod de Cymru yn aros yn ddiogel.
"Mae angen i Adran Gŵn Heddlu fodern allu goresgyn heriau a bygythiadau cyfredol yn gryf ac yn ddynamig. Mae ein Huned bresennol yn brofiadol ac yn gymwys i dracio pobl ac eiddo mewn amrywiaeth eang o argyfyngau. Mae’r sefyllfaoedd lle gallwn helpu yn amrywio o ddod o hyd i bobl sy’n agored i niwed sydd ar goll; dod o hyd i droseddwyr sydd wedi bwrglera, cyflawni trosedd yn ymwneud â cheir neu drosedd dreisgar yn ddiweddar; a dal pobl ag arfau tân neu sy’n beryglus fel arall.
Mae’r galw am ein Hadran Gŵn a’n defnydd ohoni yn fwy nag erioed. Gan ddatblygu o hyd, ymddengys y bydd hyn yn parhau a datblygu i’r dyfodol."
Arolygydd yr Adran Gŵn Mark Hobrough