South Wales Police

Arweinyddiaeth

Arweinyddiaeth

Er mwyn llwyddo fel gwasanaeth mae angen i ni weithio gyda’n gilydd a gweithio tuag at un weledigaeth.  Byddwn yn sicrhau fod pob aelod o Heddlu De Cymru yn cydnabod eu rôl fel arweinydd, a byddwn yn cefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn.

Yn ystod 2011-15 byddwn yn parhau i adolygu eich anghenion a’n hadnoddau i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth priodol.  Byddwn yn gweithio i feithrin ymdeimlad o falchder o fewn ein gweithlu ac o ran darparu gwasanaeth o ansawdd ar eich cyfer.  Wrth siarad â chi a gyda'n gilydd, bydd agwedd ein gweithlu yn broffesiynol a chadarnhaol.

Byddwn yn parhau i weithio fel rhan o ‘De Cymru Mwy Diogel’, y grŵp sy’n arwain ar ddiogelwch cymunedol yn ne Cymru, er mwyn rhannu ac arwain gwaith o’r lefel uchaf er mwyn cefnogi a datblygu cymunedau mwy diogel ledled ein hardal. 

Bydd ein Prif Gwnstabl a’i Brif Swyddogion yn arwain y gwasanaeth drwy esiampl.  Cynhelir cyfarfodydd Prif Swyddogion yn rheolaidd mewn gorsafoedd ledled de Cymru, a bydd y Prif Gwnstabl Peter Vaughan a’i dîm yn cynnal patrolau ac ymweliadau er mwyn cynorthwyo i wella perfformiad ac i gael golwg well ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan ein swyddogion Heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a staff eraill yn yr ardal rydych chi'n byw ynddi.

Cynllun Plismona 2010-2015 Maint: [5.06 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice