South Wales Police

Ansawdd Gwasanaeth

Ansawdd Gwasanaeth

Swyddogaethau craidd unrhyw wasanaeth Heddlu yw diogelu bywyd ac eiddo, lleihau a datrys troseddau a chynnal trefn gyhoeddus.  Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill i ddiogelu ein cymunedau rhag niwed ac i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder.

Byddwn yn sicrhau bod ein ffyrdd o weithio yn diwallu anghenion unrhyw un sy'n dioddef trosedd.  Byddwn yn sicrhau bod ein swyddogion yn deall yr effaith y gall trosedd gael ar unigolion ac yn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn derbyn cefnogaeth a grym gan y sefydliad.

Byddwn yn gwella’r ffyrdd y mae swyddogion a staff yn cael mynediad i wybodaeth a gwasanaethau sy’n eu cynorthwyo i gyflawni eu swyddi yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.

Byddwn yn cysylltu â’r bobl sydd wedi dioddef trosedd i’w holi am ansawdd y gwasanaeth gwnaethant ei dderbyn.  Byddwn yn gweithredu ar y sylwadau a dderbyniwn er mwyn gwella ein gwasanaeth ar gyfer y person nesaf sy’n dioddef trosedd.

Byddwn yn sicrhau bod gennym gynlluniau mewn lle sy’n golygu, beth bynnag y mae angen i ni ei wneud, y byddwn bob amser yn gallu darparu gwasanaeth Heddlu i chi o safon, sy’n parhau i ddiwallu eich anghenion.

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice