South Wales Police

Cyfarwyddwr Cyllid

Cyfarwyddwr Cyllid

Mr Umar Hussain

Mr Umar Hussain

Mae Umar Hussain yn darparu arweiniad, rheolaeth a chyngor strategol ar adnoddau ariannol yr Heddlu er mwyn sicrhau Gwasanaeth Heddlu effeithiol ac effeithlon.  Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Cyllid Heddlu De Cymru ym mis Awst 2007.  Mae’n gyfrifol am Gyllid Corfforaethol, Gwasanaethau Fflyd, Rheolaeth Ystadau, Caffael, Gwasanaethau Canolog a Chymorth Busnes.

Mae ganddo brofiad ariannol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys deng mlynedd fel Pennaeth Cyllid Heddlu Gwent a thair blynedd gyda Heddlu Swydd Lincoln fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gweinyddiaeth.

Mae gan Umar BA Anrhydedd mewn Cyfrifeg a Chyllid, a hyfforddodd fel Cyfrifydd yn Llundain.  Mae bellach yn Aelod Cymrawd o’r Gymdeithas Siartredig Cyfrifwyr Ardystiedig.

Mae’n gyfrifol am:

  • Cyllid
  • Cymorth Busnes
  • Caffael
  • Ystadau
  • Cyfleusterau
  • Fflydoedd
Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice