South Wales Police

Prif Gwnstabl

Prif Gwnstabl

Prif Gwnstabl Peter Vaughan
Prif Gwnstabl Peter Vaughan

Peter Vaughan BSc (Anrh), Dip. App. Crim.

Prif Gwnstabl

Ymunodd Peter Vaughan â Heddlu De Cymru ym 1984, wedi ennill BSc Dosbarth Cyntaf (Gwyddoniaeth Rheoli ac Ymchwil Gweithrediadau) o Brifysgol Cymru, Abertawe.  Mae hefyd ganddo Ddiploma Troseddeg Gymhwysol a Rheoli Heddlu o Brifysgol Caergrawnt.

Mae Peter yn falch o fod wedi treulio amser ym mhob rheng yn Heddlu De Cymru, gan wasanaethu’r cymunedau lle magwyd ef ac y mae’n dal i fyw.

Cyflawnodd nifer o swyddi gweithrediadol yn ystod rhan gyntaf ei yrfa, cyn dod yn Arweinydd Diogelwch Cymunedol fel Uwcharolygydd.  Yna aeth ymlaen i fod yn Bennaeth yr Uned Polisïau Troseddu a Gweithrediadau.  Mae wedi bod yn Gomander dwy URS wahanol yn ne Cymru, am gyfnod oddeutu dwy flynedd bob tro, ym Merthyr Tudful yn gyntaf ac yna fel Prif Uwcharolygydd yn Rhondda Cynon Taf.

Mynychodd Gwrs Awdurdod Strategol yn 2003, a gynlluniwyd i ddatblygu potensial unigolion a bennwyd fel rhai a fyddai’n gallu symud ymlaen i rôl weithredol o fewn y gwasanaeth.  Ym mis Rhagfyr 2003 daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Cwnstabliaeth Wiltshire.  Yn ystod y cyfnod hwn, fel unig ACC yr Heddlu hwnnw, cymerodd gyfrifoldeb dros holl faterion gweithrediadol, gan arwain yr ymateb i sawl digwyddiad critigol proffil uchel.

Dychwelodd i Heddlu De Cymru fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol ym mis Ionawr 2007, a chymerodd gyfrifoldeb dros bortffolio Cymunedau a Phartneriaethau.  Dyrchafwyd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ym mis Ebrill 2007.  Penodwyd yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ym mis Gorffennaf 2009, a dechreuodd yn y swydd ar 1 Ionawr 2010.

Ers dychwelyd yn 2007 mae wedi arwain datblygiad Plismona Cymdogaeth ac wedi dod â ffocws ar ddeall a darparu ar gyfer anghenion cymunedau amrywiol a bywiog de Cymru.  Mae wedi datblygu ethos gweithio mewn partneriaeth cryf ac mae’n Gadeirydd Grŵp De Cymru Mwy Diogel; grŵp a fwriadwyd i ddarparu atebion partneriaeth strategol i broblemau cyffredin.  Mae wedi’i hyfforddi fel Comander Aur a Rheolwr Digwyddiadau Critigol.

Ef yw Cadeirydd ACPO Cymru a Chadeirydd Portffolio Troseddau Meddiangar Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i’r gwasanaeth a phartneriaid ar bob agwedd ar droseddau meddiangar megis byrgleriaethau a throseddau cerbydau.  Ef hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Lleihau Bygythiad Troseddau Meddiangar y Swyddfa Gartref.

Mae’n aelod o Grŵp Arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus, a sefydlwyd i roi arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer cydweithio a diwygio gwasanaethau cyhoeddus, ac i symud gwella gwasanaethau cyhoeddus Cymru ymlaen.  Fel aelod o’r grŵp hwn mae ganddo gyfrifoldeb rhanbarthol dros ardal Cwm Taf, gan ddod â phartneriaid leded asiantaethau at ei gilydd i ystyried atebion cydweithiol arloesol ac amlasiantaethol.  Mae hefyd yn cynrychioli Heddlu De Cymru ar Fwrdd Cydweithio Cymru gyfan, sy’n ystyried cyfleoedd i gydweithio o ran plismona ledled Cymru.

Er 2007 mae’r Heddlu wedi profi gostyngiad cyffredinol o 30,000 yn y nifer o droseddau y flwyddyn, sy’n golygu bod lefel troseddu ar ei hisaf er pum mlynedd ar hugain, ac mae lefelau datgelu troseddau wedi cynyddu 6.5%, gan godi Heddlu De Cymru o fod yn safle 43 allan o’r 43 Heddlu yn genedlaethol i’r seithfed safle.

Mae’n Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru ac yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Ymgynghorol Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Mae’n briod a chanddo ddau o blant, yn mwynhau cadw’n heini ac yn gefnogwr rygbi brwd.

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice