South Wales Police

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Troseddau Arbenigol

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Troseddau Arbenigol

Matt Jukes

Mr Matt Jukes

Trosglwyddodd Matt drosglwyddiad i Heddlu De Cymru o Heddlu De Swydd Efrog lle bu’n Rheolwr Bwrdeistref Rotherham ac yn Gyfarwyddwr Cudd-wybodaeth.

Ymunodd â’r Heddlu ym 1995 a chododd yn gyflym drwy’r rhengoedd, gan symud o fod yn Dditectif Gwnstabl i Dditectif Uwcharolygydd, cyn ei ddyrchafu’n Rheolwr Rhanbarthol.

Dros y 15 mlynedd ddiwethaf mae wedi gweithio mewn nifer o rolau gwahanol sydd wedi amrywio o gynnal ymchwiliad i lofruddiaeth yn India i fod ar batrôl ar strydoedd Rotherham.

Mae gan Matt gymysgedd o sgiliau plismona arbenigol a lleol ac mae ganddo brofiad helaeth, yn enwedig o ran gwrthderfysgaeth a phlismona digwyddiadau troseddol.

Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd gweithio yn Washington DC fel cynghorydd gwrthderfysgaeth gyda chynrychiolwyr gorfodi cyfraith y DU ar gyfer y G8.

Mae Matt yn hynod falch wasanaethu cymunedau De Cymru, ac mae'n gyfarwydd iawn â threftadaeth glo a dur yr ardal.

Adeg ei benodiad dywedodd,

“Gobeithio bydd fy ngwaith gyda throseddau difrifol a therfysgaeth yn fy ngalluogi i sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag y bygythiadau hyn.  Diogelwch ar gyfer pob dinesydd sydd wrth wraidd yr hyn yr wyf am ei gyflawni o fewn yr heddlu.”

Fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Troseddau Arbenigol mae gan Matt gyfrifoldeb dros:

  • Pennaeth Proffesiwn Prif Uwcharolygydd CID
  • Cudd-wybodaeth
  • Tîm Ymchwilio Troseddau Mawr 
  • Uned Diogelu’r Cyhoedd
  • Uned Rheoli Gweithrediadau Cudd
  • Uned Cymorth Gwyddonol
  • Adolygu Troseddau Mawr
Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice