South Wales Police

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gweithrediadau Arbenigol

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gweithrediadau Arbenigol

Nick Croft

Mr Nick Croft

Gan ddilyn ôl troed ei dad, cychwynnodd Nick ar ei yrfa gyda’r Heddlu ym 1982 pan ymunodd â Chwnstabliaeth Heddlu Swydd Warwig fel swyddog ymateb mewn iwnifform.

Wedi gwasanaethu fel Swyddog Rhawd Cymunedol a Chwnstabl Diwtor, arbenigodd Nick mewn hyfforddiant, gan gwblhau secondiad gyda’r Swyddfa Gartref i ddatblygu hyfforddwyr yr Heddlu.  Yn ystod yr amser hwn enillodd Nick Radd Meistr mewn Addysg o Brifysgol Hull.

Wedi cwblhau ei secondiad dyrchafwyd Nick drwy’r rhengoedd i ddod yn Uwcharolygydd (Gweithrediadau) yn Uned Rheoli Sylfaenol y De lle bu'n gyfrifol am gynllunio a rheoli dros nifer o ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys y Sioe Frenhinol, Cyngherddau yng Nghastell Warwig a’r Bulldog Bash, sef digwyddiad pedwar diwrnod sy’n denu Hells Angels o bob cwr o Ewrop.

Wedi ei ddyrchafu’n Brif Uwcharolygydd daeth Nick yn rheolwr y ‘Grŵp Heddlu Traffyrdd Canolog’ cydweithredol rhanbarthol.  Arweiniodd gyflwyniad Gwasanaeth Swyddogion Traffig Asiantaeth y Priffyrdd a Phrosiect Rheoli Traffig Gweithredol yr M42.  Yna daeth yn Brif Uwcharolygydd Gweithrediadau’r Heddlu, cyn dod yn Bennaeth Safonau Proffesiynol.

Yn ddiweddarach trosglwyddodd Nick i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fel Rheolwr Uned Rheoli Sylfaenol De Dudley, gan weithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol i ddatblygu plismona cymdogaeth a’i roi ar waith.

Un o uchafbwyntiau gyrfa Nick oedd ei secondiad i ‘Brosiect Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu 2010’, menter yn archwilio i ddyfodol plismona.  Cafodd yr adroddiad terfynol ei ddosbarthu i bob Heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Drwy gydol ei yrfa mae Nick wedi datblygu sgiliau mewn nifer o feysydd plismona.  Mae ganddo brofiad o Arfau Tân, Trefn Gyhoeddus ac fel Comander Cemegol, Biolegol, Radiolegol ac Ymbelydrol.  Mae hefyd yn Drafodwr Gwystl cymwys.

Ymunodd Nick â Heddlu De Cymru fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Cudd-wybodaeth Gorfforaethol ym mis Ebrill 2008, ac ym mis Gorffennaf 2009 daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Adnoddau Dynol. Ym mis Ionawr 2011 newidiodd ei bortffolio pan ddaeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Gweithrediadau Arbenigol.

Bellach mae’n gyfrifol am:

  • Gweithrediadau Arbenigol
    Rheoli Galwadau a Digwyddiadau
    Plismona Ffyrdd
    Arfau Tân
    Adran Cŵn a Cheffylau
    Cymorth Awyr
  • Systemau Gwybodaeth
    TGCh
    Rheoli Gwybodaeth
    Rhyddid Gwybodaeth
    Niche
    Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu
    MoPI (Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu)
    Diogelu Data
    Diogelwch Gwybodaeth
  • Safonau Proffesiynol
  • Trwyddedu Arfau Tân 

Mae Nick wedi cadw cysylltiadau â Phlismona Ffyrdd ac mae’n cadeirio’r Cyd-grŵp Cynghori Plismona Ffyrdd Cymru Gyfan.  Ef hefyd yw arweinydd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu yn y DU ar gyfer caffael cerbydau Heddlu a thechnoleg cerbydau'r Heddlu.

 

 

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice