South Wales Police

Amdanom ni

Amdanom Ni

Er ein bod yn gyfrifol am 10% yn unig o ardal ddaearyddol Cymru, mae ardal Heddlu De Cymru yn gartref i 1,225,900 o bobl, sef oddeutu 42% o boblogaeth y wlad.


Mae dwy ddinas ffyniannus Cymru yn ein hardal, sef Caerdydd ac Abertawe; yn ogystal â chymoedd de Cymru, sy’n gyfoethog eu diwylliant; rhanbarthau arfordirol helaeth; atyniadau i dwristiaid megis Penrhyn G ŵ yr, Porthcawl a’r Barri; cysylltiadau trafnidiaeth prysur, gan gynnwys yr M4; rheilffyrdd rhwng dinasoedd; Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd; a lleoliadau chwaraeon adnabyddus megis y Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd a Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Er ei fod yn ardal sy’n enwog am ei synnwyr cryf o hanes, mae de Cymru yn parhau i ehangu o ran busnes, hamdden a thwristiaeth, ac o ganlyniad mae’n rhanbarth sy’n fwy diddorol a heriol i’w blismona.

Rydym yn hynod falch o ddiogelu a gwasanaethu ein cymunedau, a’n gweledigaeth yw bod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau.

Mae ardal yr Heddlu yn cynnwys 232 cymdogaeth, ac maent wedi’u rhannu’n bedair ardal plismona ranbarthol. 

Y pedair ardal yw:

• Rhanbarth Gogleddol (Merthyr a Rhondda Cynon Taf)
• Rhanbarth Dwyreiniol (Caerdydd)
• Rhanbarth Gorllewinol (Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe)
• Rhanbarth Canolog (Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr)

Mae tîm plismona cymdogaeth ym mhob cymdogaeth, sy’n cynnwys swyddogion heddlu, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chwnstabliaid gwirfoddol, sy’n gweithio gyda’r gymuned i fynd i’r afael â’r problemau sydd bwysicaf i chi.

Positive about disabled people
Promoting Diversity
Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice